Newyddion
(sgroliwch am fwy)
Medi
Mae'r gathl symffonig 'Gododdin' a'r consierto cynta i'r delyn ('Amaterasu') efo Hannah Stone yn unawdydd wedi ymddangos ar CD newydd gan recordiau Heritage. Diolch i Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a'r arweinydd Gavin Sutherland.
Gorffennaf
Rhoddodd Côr Meibion Pendyrus y perfformiad cyhoeddus cynta o'r darn comisiwn 'Ffynhonnau' yn eu rhaglen yng Ngŵyl Fawr Aberteifi eleni - ac ennill y gystadleuaeth. Gosodiad ydy'r darn o ddetholiad o'r gerdd hir gan Rhydwen Williams. Mi wnaeth y côr ei ganu eto yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst, ar 10 Awst.
Mehefin 2019
Ar ôl bwlch o ugain mlynedd ers y perfformiad cynta, cafodd Classy Classics, i leisiau unsain plant a cherddorfa broffesiynol, ei berfformio gan blant o ysgolion Birmingham gyda cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru, yn y Neuadd Ddinesig, Birmingham, ar 30 Mehefin.
Gwrandewch ar y perfformiad cynta un trwy glicio yma!
Mai 2019
Darn i organ heb organydd ydy 'Pendramwnwgl', darn comisiwn gan Ŵyl Morgannwg, sy'n cael ei 'berfformio' gan yr organ stryd Astrid sawl gwaith eleni gan ddechrau ar 18 Mai yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd, ac yna mewn sawl lleoliad dros y misoedd canlynol, gan gynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst.
Mai 2019
Darn i organ heb organydd ydy 'Pendramwnwgl', darn comisiwn gan Ŵyl Morgannwg, gaiff ei 'berfformio' gan yr organ stryd Astrid sawl gwaith eleni gan ddechrau ar 18 Mai am 11.00 yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd, ac yna mewn sawl lleoliad dros y misoedd canlynol, gan gynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst.
Medi 2018
Yn dilyn llwyddiant opera gynta Gareth, Wythnos yng Nghymru Fydd, mae'r gwaith wedi dechrau ar yr ail - addasiad o glasur Caradog Prichard Un Nos Ola Leuad, nofel a gafodd ei galw'r un Gymraeg orau'r ugeinfed ganrif. Y bwriad yw bod OPRA Cymru yn llwyfannu'r gwaith yn 2020. Bydd datblygiadau pellach i'w gweld yma!
11 Mehefin
Unwaith eto mae modd prynu dwy CD gyda darnau gan Gareth (Morluniau Môn ac Agorawd yr Wyddfa) arnyn nhw, albymau nad ydyn nhw wedi bod ar gael ers peth amser. Mae modd gwrando ar y darnau ar y wefan hon, a'u prynu nhw gan Presto Classical - cliciwch yma.
24 Mai
Bu ymateb brwd i'r darn siambr newydd I'r Pedwar Gwynt yn nhaith ddiweddar Ensemble Cymru, gydag adolygwyr yn defnyddio geiriau fel 'syfrdanol', 'rhyfeddol', 'hudolus' a 'meistrolgar'!
20 Ebrill
Nifer o sgoriau gan Gareth Glyn yn awr ar gael i'w lawrlwytho am ddim ar ffurf pdf! Cliciwch ar prynu/llogi/lawrlwytho. Rhagor i ddod yn fuan.
30 Mawrth
Caiff darn prawf i'r delyn gan Gareth, Cytgerdd, ei berfformiadau cynta ar 6 Ebrill yn yr Ŵyl Delynau Rhyngwladol yng Nghaernarfon; cyfansoddwyd i ddathlu penblwydd y telynor Osian Ellis yn 90 oed.
29 Mawrth
Cyfansoddodd Gareth gyfres i naw offeryn, I'r Pedwar Gwynt, i Ensemble Cymru ar gyfer eu taith 15mlwyddiant ym Mai 2018, gyda pherfformiadau yng Nghaerydd, Aberystwyth, Pwllheli, Cilcain, Llandudno, Caergybi, Bangor a Chaernarfon.
Ionawr 2018
Cafodd opera Gareth, Wythnos yng Nghymru Fydd, ei dyfarnu'r Cynhyrchiad Gorau yn yr Iaith Gymraeg yn seremoni Gwobrau Theatr Cymru 2018.
2018
Cafodd opera Gareth, Wythnos yng Nghymru Fydd, ei henwebu mewn pedwar categori ar gyfer Gwobrau Theatr Cymru 2018: Sain (=cerddoriaeth) Gorau, Cynhyrchiad Gorau yn yr Iaith Gymraeg, Perfformiad Gyryw Gorau mewn Cynhyrchiad Opera (Robyn Lyn Evans) a Cynhyrchiad Teithiol Cymraeg Gorau.
2017
Mae opera newydd Gareth, Wythnos yng Nghymru Fydd, yn cael ei pherfformiadau cyntaf erioed ar 10 ac 11 Tachwedd 2017 yng Nghanolfan Pontio, Bangor, cyn mynd ar daith drwy Gymru. Mwy o fanylion yma.
Mae'r sgôr lawn yn ei chyfanrwydd i'w weld yma.
2017
Ar gael yn awr - CD o ganeuon tenor Gareth Glyn, gyda'r cantorion disglair Rhys Meirion, Elgan Llŷr Thomas a Rhodri Prys Jones a'r cyfeilydd blaenllaw Annette Bryn Parri. Yn cynnwys ffefrynnau fel Llanrwst a Carol yr Alarch, a chyfle i fwynhau'r wefr o'r tri thenor yn cydganu yn ogystal! Medrwch gael rhagor o fanylion, a chyfle i archebu neu lawrlwytho, yma.
Mawrth 2015
Mae’r darn comisiwn cerddorfaol ‘Gododdin’, gafodd ei berfformio yng Ngwyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, bellach ar gael i wrando arno. Cliciwch yma (yna Cerddorfa a Band). - mwy
Chwefror 2015
Ers i’r darn comisiwn cerddorfaol ‘Gododdin’ dderbyn ei berfformiad cyntaf yng Ngwyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru yn 2014, gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, mae bellach wedi cael ei ddarlledu dair gwaith ar wahanol adegau, ac ar wahanol orsafoedd o’r BBC – Radio 3, Radio Cymru a Radio Wales - mwy
Medi 2014
Derbyniodd gwaith comisiwn cerddorfaol diweddara Gareth, ‘Gododdin’, ei berfformiad cynta yng Ngwyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru, Llanelwy, ar 27 Medi. Alexandre Bloch oedd yn arwain Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC - mwy
Gorffennaf 2013
Perfformiwyd gwaith Gareth i gerddorfa symffoni ac actorion, ‘Y Daith i’r Blaned Aflafar - The Mission of SPM-1’ yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC gerbron tair mil o blant o sawl rhan o Gymru a thu hwnt. - mwy
Mehefin 2013
Mae Gareth wedi dechrau gweithio ar opera Gymraeg. Ei fwriad yw creu gwaith yn seiliedig ar un o nofelau pwysicaf yr ugeinfed ganrif yn yr iaith, ‘Wythnos yng Nghymru Fydd’ gan Islwyn Ffowc Elis. Dewch yn ôl yma i ddilyn y datblygiadau fel maen nhw’n digwydd. - mwy
Mai 2013
Daeth cynulleidfa o filoedd i Sgwâr Trafalgar yn Llundain i gyngerdd awyr-agored gan Gerddorfa Symffoni Llundain dan arweiniad Valery Gergiev, lle’r perfformiwyd trefniant arbennig Gareth o’r ‘Symphonie Fantastique’ gan Berlioz. - mwy
Gorffennaf 2012
Gareth Glyn gafodd yr anrhydedd o gael ei wahodd i wneud trefniant arbennig o ‘Nimrod’ gan Elgar ar gyfer Seremoni Agoriadol y Gemau Olympaidd yn Llundain ar 27 Gorffennaf - mwy
Mehefin 2012
Yn awr medrwch wylio nifer o fideos o weithiau gan Gareth Glyn ar y wefan hon – ewch i “Oriel Fideo a Lluniau”.
Medi 2011
MusicWeb International
Cewch ddarllen yr adolygiad llawn yma.
Dyfyniadau
Croeso i wefan Gareth Glyn.....
.....un o gyfansoddwyr mwyaf blaenllaw ac adnabyddus Cymru. Yma cewch fanylion llawn am ei yrfa, a’i gyfansoddiadau mewn sawl gwahanol gyfrwng. Mae cyfle hefyd i wrando ar bytiau o rai o’i weithiau, ac i brynu neu logi sgoriau a recordiau o’i gyfansoddiadau. mwy...
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |